 
                        Nid oes unrhyw newid sylweddol ers ein diweddariad yr wythnos diwethaf. Mae’r holl gyfleusterau saethu targed awyr agored a dan do yn parhau ar gau yn unol â chanllawiau iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Ein disgwyliad yw mai disgyblaethau saethu awyr agored fydd y cyntaf i ddychwelyd.
Mae cyfarfodydd ymgynghori rheolaidd gyda'n partneriaid saethu a Chymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) yn parhau. Rydym yn ceisio eglurhad gan Lywodraeth Cymru, drwy'r WSA, ar y diffiniad o 'gyrtiau allanol' er mwyn deall yn well sut mae canllawiau chwaraeon awyr agored yn berthnasol i saethu targed.
Yr wythnos diwethaf fe wnaethom gynghori ein bod yn gweithio'n gyflym i baratoi cyngor. Er bod yn rhaid i gyfleusterau yng Nghymru aros ar gau nes bod Llywodraeth Cymru yn caniatáu eu hailagor, mae asesiadau risg yn gam rhagweithiol y gellir ei gymryd nawr i baratoi ar gyfer dychwelyd i saethu.
Rydym wedi paratoi dogfen gyngor a thempled asesu risg, y gellir eu llwytho i lawr drwy'r ddolen isod.
Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch amynedd ar yr adeg anodd hon, rydym i gyd eisiau mynd yn ôl i saethu cyn gynted â phosibl ond mae'n rhaid i ni wneud hynny mewn ffordd ddiogel.
Ailagor cyfleusterau Saethu Targed Awyr Agored - Diweddarwyd 19 Mehefin 2020