Cynhaliodd Cydffederasiwn Saethu Ewropeaidd 2021 (ESC) eu pencampwriaethau blynyddol yn Osijek, Croatia. Roedd rhagofalon a gweithdrefnau COVID-19 sylweddol ar waith i wneud y digwyddiad yn ddiogel i bob tîm a oedd yn bresennol ac i'r gymuned leol. Roedd tri athletwr o Gymru yn cystadlu fel rhan o dîm Saethu Prydain, gan gynrychioli Cymru a’r DU mewn Pistol Awyr 10m Dynion, Sgiets Dynion, a Trap Dynion Iau.
Cystadlodd James Miller yn y 10m Air Pistol yn ei gystadleuaeth hŷn fawr gyntaf gan sgorio 570 18x. Fel iau ym Mhencampwriaeth ESC ddiwethaf enillodd James fedal arian. Wedi’i hyfforddi gan Alan Green, mae James yn un o nifer o saethwyr pistol ifanc a dawnus o Gymru sydd â dyfodol addawol.
Roedd Ben Llewellin yn un o dri athletwr o Brydain oedd yn cystadlu yn Men's Skeet a gosododd Record Ewropeaidd ar y cyd yn 2017 gan ennill medal arian. Gorffennodd Ben ar y brig o blith holl athletwyr Prydain o ran cymhwyso gyda 122 ac fe fethodd o drwch blewyn ar le yn y rownd derfynol o un targed mewn gêm agos. Mae Ben yn parhau i fod ar raglen Saethu o'r Radd Flaenaf Prydain ac yn cadw ei le fel saethwr Skeet gorau'r DU.
Bu Lewis Owen, yn ei flwyddyn olaf fel saethwr iau, yn cystadlu yn Olympic Trap gan sgorio 110. Bu Lewis hefyd yn methu o drwch blewyn â chael lle yn y rownd derfynol o un safle. Fel un o dîm o dri saethwr Prydeinig, fe ddaeth Lewis yn agos at fedal efydd ond fe gafodd y tîm eu curo gan y Ffindir. Gan symud i mewn i'w flwyddyn hŷn gyntaf, mae Lewis mewn sefyllfa dda yn un o brif saethwyr Trap Olympaidd Prydain.
Gellir gweld y llyfr canlyniadau llawn yma.