Diweddariad Coronafeirws - 5 Ionawr

Rhybudd Cymru Lefel 4 a Lloegr Haen 4 – Aros Gartref

Mae cyfraddau coronafeirws yng Nghymru a ledled y DU yn parhau i fod yn uchel, felly mae llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU yn San Steffan wedi gweithredu cyfarwyddiadau aros gartref sy’n cynnwys cau pob busnes nad yw’n hanfodol.

Yn ymarferol, mae’r cyfyngiadau hyn yn golygu na fydd Cymry’n gallu cymryd rhan mewn saethu targedau. Mae hyn oherwydd bod angen cau canolfannau hamdden a chwaraeon, sy'n cynnwys meysydd saethu dan do ac awyr agored a chlybiau. Yn yr un modd, mae cyfyngiadau ar unigolion yn golygu na all pobl deithio o'u cartref gydag offer chwaraeon i le neu gyfleuster a rhaid iddynt wneud ymarfer corff yn lleol y tu allan gyda hyd at un person arall.

Mae system Perfformiad Uchel WTSF wedi trefnu goddefebau arbennig ar gyfer athletwyr elitaidd sy’n cynrychioli Cymru a’r DU ar lwyfan y byd, mae’r rhain yn cael eu rheoli gan WTSF a’u cymeradwyo gan Chwaraeon Cymru. Caniateir i'r athletwyr hyn hyfforddi fel safleoedd penodol a rhaid iddynt ddilyn protocolau llym COVID-diogel.

Ein Partneriaid

^
cyWelsh