Cronfa Niwed Storm Chwaraeon Cymru 2024

Mae Chwaraeon Cymru wedi sicrhau cyllid ychwanegol sy’n caniatáu inni agor Cronfa Difrod Stormydd. Gall clybiau cymunedol dielw a sefydliadau sydd wedi’u heffeithio gan ddifrod stormydd diweddar wneud cais am grantiau hyd at £5,000 i’w helpu i wella.

Dim ond cyfnod byr sydd gan glybiau i wneud cais am y grantiau sy'n amrywio o leiafswm o £300 hyd at uchafswm o £5,000. Mae ceisiadau yn agor am 9am ddydd Mawrth 10 Rhagfyr ac yn cau wythnos yn ddiweddarach am 4pm ddydd Mawrth 17 Rhagfyr.

Gellir defnyddio'r grantiau i helpu gyda chostau sy'n cynnwys atgyweirio cyfleusterau, tai clwb, gosodiadau a ffitiadau, lloriau, dodrefn, seilwaith, offer, gwaith lleiniau, atgyweirio cyfleustodau, amnewid nwyddau gwyn a chostau glanhau. Byddwn yn ceisio sicrhau bod y ceisiadau'n cael eu prosesu o fewn 4 wythnos ar y mwyaf, er bod hyn yn dibynnu ar nifer y cyflwyniadau a dderbynnir.

Ewch i'r ddolen hon am fwy o wybodaeth ac i wneud cais - https://www.sport.wales/grants-and-funding/storm-damage-fund/

Ein Partneriaid

^
cyWelsh