Sarah Wixey Medal Aur Mewn Digwyddiad Tîm Trap yng Nghwpan y Byd

Enillodd yr athletwraig Trap Olympaidd o Gymru ac enillydd medal efydd Gemau'r Gymanwlad 2018 Sarah Wixey fedal aur yng nghystadleuaeth Tîm Trap Merched yn y digwyddiad diweddar Cwpan y Byd ISSF yn Osijek.

Roedd Sarah yn un o dîm tri athletwr gyda Kirsty Hegarty a Charlotte Hollands yn cael eu harwain gan British Shooting a gurodd tîm Ffederasiwn Rwsia yn y Gêm Medal Aur ar Orffennaf 1af. Bu Sarah hefyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Trap y Merched gan orffen o drwch blewyn yn y pedwerydd safle. Wrth sôn am y llwyddiannau, dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad WTSF John Dallimore MBE:

“Canlyniadau gwych i Sarah yng Nghwpan y Byd Osijek. Yn ei rownd derfynol gyntaf roedd Sarah wedi’i hamgylchynu gan athletwyr a oedd wedi’u hariannu’n llawn i Tokyo ac felly roedd sicrhau’r pedwerydd safle yn gamp aruthrol, dim ond colli allan ar y fedal efydd ar ôl clymu gyda Jana Spotakova o Slofacia. Y diwrnod canlynol, gyda dau athletwr GBR arall, sicrhaodd Sarah y fedal Aur yn erbyn tîm cryf o Rwsia.”

 

 

Ein Partneriaid

^
cyWelsh