Rydym wedi cael canllawiau gan Lywodraeth y DU ynghylch trefniadau ar gyfer y Tocyn Drylliau Saethu Ewropeaidd yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.
Newidiadau i EFPs
Pan ddaw cyfnod pontio’r DU i ben, o 1 Ionawr 2021 ni fydd trigolion Prydain Fawr bellach yn gallu gwneud cais am Docyn Drylliau Saethu Ewropeaidd (EFP) na defnyddio un i deithio i’r UE gyda’u dryll tanio neu wn saethu.
Cyn teithio, bydd angen i drigolion Prydain Fawr wirio a dilyn gofynion trwyddedu unrhyw wlad yn yr UE y bydd ganddynt ddryll tanio o 1 Ionawr, yn ogystal â rheolaethau mewnforio ac allforio’r DU. Mae hyn yn cynnwys os ydych yn un o wledydd yr UE ar 1 Ionawr.
Efallai y bydd gan wledydd amseroedd arwain amrywiol ar gyfer gwneud cais am drwyddedau, felly rydym yn argymell gwirio gofynion ymhell cyn teithio.
Os ydych chi'n noddi ymwelydd o'r UE sy'n dod ag arf saethu i Brydain Fawr, dylech wneud cais i'r heddlu lleol am drwydded ymwelydd fel nawr ond ni fydd angen i chi ddangos EFP dilys yr ymwelydd. Bydd trwyddedau ymwelwyr a roddwyd cyn i'r cyfnod pontio ddod i ben yn parhau'n ddilys nes iddynt ddod i ben.
Ceir arweiniad llawn ar Gofynion EFP o 1 Ionawr 2021