Eleni gwelwyd newid sylweddol yn arweinyddiaeth Saethu Cymru. Recriwtiodd y Bwrdd Brif Swyddog Gweithredu i'r sefydliad ym mis Ionawr; penodwyd Cadeirydd newydd yn ddiweddarach y mis hwnnw a recriwtiwyd tîm rheoli newydd gan arwain at dri aelod newydd o staff o fis Mai.
Wrth i ni gychwyn ar gyfnod cyffrous o dwf strategol a diwygio llywodraethu, rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol medrus ac egwyddorol i ymgymryd â rôl Ysgrifennydd y Cwmni; hyrwyddo rhagoriaeth mewn llywodraethu, sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol, a chryfhau perthnasoedd â rhanddeiliaid ar draws Saethu Cymru.
Mae manylion llawn y rôl a sut i wneud cais yn y pecyn recriwtio.