Lleoliad: Ystafell Jiwbilî, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd
Dyddiadau; 21ain a 22ain Medi 2024
Ffi: £90
I gofrestru cwblhewch eich manylion ar y ffurflen isod. Mae cyfyngiad o 12 ymgeisydd ar y cwrs a byddwch yn cael gwybod a yw eich cofrestriad wedi bod yn llwyddiannus trwy e-bost. Peidiwch ag archebu teithio neu lety nes eich bod wedi derbyn cadarnhad.
Tiwtor y cwrs fydd David Goodfellow.
Ar ôl cwblhau'r cwrs a phasio'r arholiad yn llwyddiannus fe'ch gwahoddir i wneud cais am Drwydded Dosbarthu Cenedlaethol gan British Shooting am gost o £25. Mae hyn yn eich cymhwyso i fod yn swyddog mewn cystadlaethau ym Mhrydain Fawr ac mae'n rhan o'r llwybr i ennill Trwydded Ryngwladol ISSF yn y dyfodol.
Mae’r ffi o £90 yn cynnwys 2 ddiwrnod o hyfforddiant, cinio bob dydd a the / coffi / dŵr trwy gydol bob dydd. Bydd angen i ymgeiswyr drefnu eu llety eu hunain.
Anfonir rhagor o wybodaeth at ymgeiswyr sydd wedi cofrestru'n llwyddiannus cyn y cwrs.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]