Wrth i ni edrych ymlaen at y Flwyddyn Newydd mae'n bwysig ein bod yn dechrau cynllunio ar y cyd ar gyfer y dyfodol a dychwelyd Digwyddiadau Saethu Targed yn 2021 a 2022. Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru yn coladu gwybodaeth am ddigwyddiadau o bob camp yng Nghymru ac yn cyfrifo'r effaith y gallai'r pandemig ei chael dros y 2 flynedd nesaf.
Rydym i gyd yn awyddus i weld digwyddiadau a chystadlaethau cymunedol, yn ogystal â digwyddiadau mawr, yn dychwelyd i Gymru cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl. Byddem felly’n ddiolchgar am eich cefnogaeth i’n helpu i blotio’r holl ddigwyddiadau saethu targed o bob rhan o Gymru dros y 2 flynedd nesaf yng nghyd-destun yr hyn y byddai wedi edrych fel cyn-Covid.
Ni waeth maint y gystadleuaeth neu'r math o saethu, hoffem glywed gennych.
Os gwelwch yn dda agorwch y ddolen i'r ffurflen isod a'i chwblhau orau y gallwch, a'i chyflwyno erbyn dydd Iau 17 Rhagfyr.
Os ydych yn cynnal mwy nag un digwyddiad neu gystadleuaeth llenwch ffurflen ar wahân ar gyfer pob un.
Ffurflen Arolwg Digwyddiadau Saethu Cymru CLICIWCH YMA